WELI’S a BERFA
Bydd pob ffarmwr defaid yn Gymro, Sais, Albanwr neu Wyddel yn gwisgo dillad glaw pan ddaw’r oen cyntaf a ddim yn eu tynnu am wythnosau bwygilydd. Nid yw hyn yn ddim gwahanol yn y Llan.
Bûm yn treulio’r mis diwethaf yn ceisio cadw cynifer o wyn yn fyw ag y gallaf er gwaethaf rhai defaid ystyfnig a natur sy’n ceisio fy rhoi yn y wyrcws, er hynny mae’n ymddangos ein bod wedi cael amser gweddol lwyddiannus. Ac eithrio taflu ambell fforch dail a strancio a chwyno bob nos am ddefaid yn y sied aeth popeth yn ôl y cynllun - dyna fel dw i’n ei gweld hi beth bynnag.
Yn ôl yr arfer, pobl y pentref sy’n rhannol gyfrifol am lwyddiant yr wyna yn Llan am eu bod bob amser yn rhoi gwybod imi os oes rhywbeth o’i le. Felly diolch yn fawr i bawb a ffoniodd neu a alwodd yn y tŷ. Diolch arbennig i Alun Rhyd Onnen Isaf a neidiodd o’r bws ysgol a rhedeg i roi gwybod imi fod oen newydd ei eni yn gaeth i lawr y boncyn yn y Dorlas. Roeddwn yn arbennig o ddiolchgar, yn enwedig wrth imi feddwl i ddechrau fy mod ar fin cael fy mygio pan welais i nhw’n rhedeg tuag ataf.
Ni waeth pa mor anodd fu’r tymor wyna, wrth iddi gynhesu a’r glaswellt yn dechrau tyfu a’r wyn yn chwarae yn y caeau mae’r holl drafferthion yn mynd yn angof, oni bai bod gennych chi wyn fel fy rhai i sy’n well ganddyn nhw bori wrth ymyl y ffordd, a phan dw i’n trio’u cael nhw’n ôl i’r cae dydyn nhw ddim yn gallu dod o hyd i’r lle daethon nhw allan yn y lle cyntaf.
Â’r wyna wedi gorffen bellach a’r tir yn sychu dyma fi’n penderfynu chwalu’r domen dail cyn iddi chwalu’i hunan ar y ffordd. Bob blwyddyn, drwy draul, neu drwy beth fyddai fy nhad yn ei alw’n gamdriniaeth, mae un neu ddau o ddannedd wedi plygu ar y loder, ac felly fu eleni hefyd. Doedd hyn ddim yn broblem ynddo’i hunan a dyma fi’n tynnu’r dant cyntaf, ei boethi’n chwilboeth, ei sythu ar yr einion ac yna’i roi o’n ôl ar y loder. Yna tynnais y dant nesaf a dechrau poethi hwnnw. Doeddwn i heb sylwi ar yr arogl llosgi i ddechrau nes imi edrych dros fy ysgwyd a chael braw o weld pen blaen y loder yn mygu. Roedd y dant poeth wedi cynnau olew oedd wedi bod yna am dros ddeugain mlynedd. Ar ol eiliad o banig, iaith anweddus a rhuthro am fwcedaid o ddr fe ddiffoddodd y tân a heb unrhyw ddifrod mawr wedi digwydd.
Pan lwyddais o’r diwedd i chwalu’r tail aeth pethau’n iawn er bod yna ddau dwll newydd ar ochr y sbredar lle daeth fy nhroed oddi ar y cydiwr ar adeg anffodus. Dywedodd Arwel Bach wrthyf i unwaith “Mae rhai sy’n gyrru tractor a rhai sy’n gyrru sgriws”, doeddwn i ddim erioed yn hollol sir o’i ystyr ond dw i’n weddol sicr mai un o’r rhai olaf ydw i a doedd o ddim yn bwriadu canmol fy sgiliau fel gyrrwr.
Erbyn hyn mae’r cyfnod cur pen gyda defaid wedi mynd a thro’r gwartheg ydy hi i gael hwyl am fy mhen i. Gan fod y gwair sy wrth gefn yn rhedeg yn isel, penderfynais roi ychydig o loi allan yn Cae Dan Ty (cae gwyrdd ffrwythlon). Ar ol pum mis o dan do aethon nhw o’u co’ a finnau’n eu gwylio nhw’n chwarae a mwynhau’r rhyddid newydd. Unwaith roedden nhw wedi setlo a rhedeg allan o stem, gadewais i nhw iddi. Ymhen hanner awr pan ddois i’n ôl roedden nhw wedi torri ffens, croesi’r afon ac ar eu ffordd i gae cymydog. I fod yn deg iddyn nhw fe ddaethon nhw’n ol heb unrhyw drafferth. Ond wedi imi drwsio’r ffens dyma nhw’n gwneud union yr un peth drannoeth . Penderfynais fy mod wedi cael digon a’u symud ar draws y ffordd i Cae Ysgol.
Roedd popeth yn dawel am ychydig o ddiwrnodiau - yr haul y tywynnu a’r defaid a’r gwartheg yn hapus, a finnau’n llai blin nag arfer. Yn anffodus, chwalwyd y rhith o wynfyd gwledig pan ffoniodd Tina i ddweud bod y lloi yn derfysglyd ac yn dawnsio’r tango yn un o erddi Maes y Llan. Afraid dweud eu bod wedi symud i gae arall ble maen nhw i’w gweld i fod yn byhafio’u hunain.
Gareth Llan
© hawlfraint Gareth Bryan 2006
© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.