LLADRON YN Y PARC- LLOSGI BWRIADOL YNG NGHARROG
Yn oriau mân Llun y Pasg, bu dau ymosodiad ar eiddo yn y Parc ac yng Ngharrog.
Gyrrodd lladron gerbyd drwy ffenest siop Gorsaf Betrol y Parc gan achosi difrod mawr i flaen y siop oedd yn fwy o lawer na’r gwm cnoi a’r wyau pasg a gafodd eu lladrata. Yna aeth yr un bobl drwy Carrog a rhoi car Eileen Williams ar dân ar ôl methu’i ddwyn.
Rhwystrwyd gwneud difrod i gerbyd arall oedd wedi’i barcio yn ei ymyl pan ddeffrodd Eileen i weld bod tân yn ei char hi deffro Colin Roberts wedyn a symudodd yntau ei gar ei hunan cyn i hwnnw fynd ar dân.
Daeth y frigad dân a diffodd y fflamau ond, fel y dengys ein lluniau, roedd y car wedi’i ddifetha’n llwyr.
Tybir bod dau ddyn o Wrecsam wedi’u harestio am y drosedd, ond nid oedd modd cadarnhau hyn gyda’r heddlu.
© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.