Rhagfyr 2005
HANES SYCAMORE TERRACE (Parhad)
Yn ystod y blynyddoedd rhwng 1861 & 1871, roedd
Margaret Jones yr hynaf, a gur Margaret ei merch wedi marw.
Cyfrifiad ar gyfer
Rhif 4 Sycamore Terrace, 1871
Pennaeth Margaret Jones 53 oed, gweddw, siop
wraig.
Merched Elizabeth 17 oed, Margaret 12 oed, Mab, David 8 oed. A lletywyr
hefyd.
Cyfrifiad ar gyfer rhif 4 Sycamore Terrace, 1881
Pennaeth Margaret Jones 63
oed gweddw, siop wraig.
Mab David 18 oed, saer coed.
Ym mis Tachwedd 1890 priododd David, yn 27 oed,â Jane Evans yn y Capel Methodistaidd yn y pentref a oedd, ers dyfodiad y rheilffordd yn 1864, yn dod i gael ei adnabod fel ‘Carrog’.
(Pan adeiladodd Henry Robertson y rheilffordd ar hyd Dyffryn yr Afon Ddyfrdwy, ‘Berwyn’ oedd yr orsaf gyntaf a grëwyd. Roedd yr un nesaf yng nghanol trefgorddau’r Mwstwr a Thir Llannerch a’r enw ar honno oedd ‘Glyndyfrdwy’. Bron dair milltir ymhellach, yn ymyl fferm Pen-y-bont, a phlwyf Llansantffraid Glyndyfrdwy adeiladwyd yr orsaf nesaf. Yn lle defnyddio enw hir ac ailadrodd y gair Glyndyfrdwy, mabwysiadwyd enw’r drefgordd gyfagos, sef ‘Carrog’. Yn ystod y blynyddoedd diweddar unwyd plwyf bach Llansantffraid Glyndyfrdwy gyda phlwyf Corwen a diflannodd yr hen enw bron yn gyfan gwbl, a hyd yn oed yr eglwys yn cael ei galw’n ‘Eglwys Carrog’.
Yn y Cyfeiriadur strydoedd am 1895 roedd Margaret Jones yn dal yn groser. Roedd ei mab David Richard Jones yn dal yn saer ond roedd hefyd yn cadw’r Grouse Inn ac yn fardd gyda’r enw barddol ‘Berwynfa’. Bu’n llwyddiannus ac agorodd siop groser cyfanwerthol ac adeiladu Brynteg y drws nesaf i rif 4, i fod yn gymorth i’w deulu efallai.
Priododd, Elizabeth, merch Margaret â Dafydd Edwards ac ar ôl codi Brynteg yn 1900, symudasant iddo, pan roedd Elizabeth yn 47, a rhedeg swyddfa’r post a siop groser lawer crandiach.
(Heddiw, mae Brynteg mewn dwy ran - y Swyddfa Bost yw un rhan, a’r unig siop bentref sydd ar ôl, gyda llety uwchben. Y rhan arall, drws nesaf, yw’r twú, Brynteg.)
Roedd gan Elizabeth ddwy ferch, Beatrice ac un arall oedd yn dioddef o’r ddarfodedigaeth ac a fu farw’n ifanc.
Yng nghapel y Bedyddwyr yng Nghorwen y priododd Beatrice â phrifathro Ysgol yr Eglwys, Carrog. Ni chawsant blant. Mae’n debyg i Beatrice etifeddu Brynteg, yn ei blynyddoedd olaf roedd yn anabl ac mewn cadair. Yn ôl y sôn roedd tymer drwg iawn ganddi ac roedd rhaid i’w gur gorthrymedig ofalu amdani yn ogystal â rhedeg y siop. Daeth ei swydd dysgu i ben ar ôl i Ysgol yr Eglwys gau yn gynnar yn y 1920au.
Erbyn hyn mae pedwar bwthyn Sycamore Terrace yn eiddo i un unigolyn. Gwnaed tri yn un a galwyd rhif 4 yn ‘Berwynfa’ ar ôl Dafydd y bardd.
Valmai Webb.
© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated.