Rhagfyr 2005
Dechreuodd dydd Sadwrn Tachwedd 5 yn wael i mi. Roedd Melfyn a finnau’n mynd i Gaerdydd i wylio Cymru yn erbyn y Teirw Duon ac roedd angen trefnu i gychwyn am 7.00 yn y bore. Ond roeddwn i wedi dechrau dathlu’r noson gynt a doeddwn i ddim yn barod pan alwodd Mel. Ar ôl sgwrs fer ar y ffon (a minnau’n taeru fy mod wedi codi), dyma fi’n cropian o’r gwely, cydio yn fy mag a neidio i mewn i’r car. Roeddem ar ein ffordd.
Wrth inni fynd drwy Langollen a ‘mhen mawr’ i’n cael gafael o iawn dyma fi’n sylweddoli bod gen i deodorant a dim byd arall yn fy mag. Roeddwn wedi bwriadu pacio’r noson gynt ond heb gael amser i wneud rywsut.
Gan nad yw Melfyn yn un i golli cyfle i wneud ceiniog neu ddwy, roedd o wedi penderfynu mynd â llwyth y tu ôl i’r car i’r Bont Faen. Yn anffodus, doedden ni heb gyrraedd y Trallwng cyn i ran o’r llwyth benderfynu chwalu ar hyd y ffordd. Rydw i wedi trio ambell i ffisig at y pen mawr dros y blynyddoedd, a gallaf eich sicrhau bod ras 100 llath i fyny’r ffordd ar ôl canopi Ifor Williams yn un o’r goreuon.
Digwyddodd y broblem fach nesaf yn Llanfair ym Muallt. Roeddem yn mwynhau bwyd wedi’i ffrio yn y Little Chef a’r llanc o ddigrifwr y tu ôl i’r til oedd yn mynnu gofyn i bawb oedd yn gwisgo’r crys coch ‘mynd i’r gêm ie? Sylweddoli fy mod wedi gadael fy waled gartref a dim ond newid mân o’r noson gynt oedd gen i arna i.
Wrth inni adael maes parcio’r Little Chef roedd dwy oedd yr un ffunud â Jemima Nichols yn ceisio newid olwyn eu car. Mae’n ddrwg gen i ddweud na chynigiodd yr un ohonom eu helpu. Roeddem yn trafod ein diffyg sgiliau sifalri ar ein taith a phenderfynu y byddai’r ddwy ferch wedi deall ein hamharodrwydd i gynnig help llaw - wedi’r cwbl roedd yna gêm a ninnau ar frys.
Ar â cael gwared â llwyth Mel yn y Bont Faen, dyma ni’n cyrraedd Caerdydd ar waethaf darllen y map yn bur wallus ar fy rhan i, a chyrraedd ein gwesty o’r diwedd.
Ar ôl peint neu ddau yn y bar dyma ni’n ymuno â môr o liw coch a cherdded tuag at y stadiwm gan aros mewn bar ar y ffordd. Roedd côr byrfyfyr wrthi’n canu ac felly dyma ni’n ymuno, fi yn fy llais tenor gorau a Mel yn fariton sigledig.
Yn sydyn dechreuodd rhywun ganu Swing Low Sweet Chariot a rhaid imi gyfaddef imi gael fy nychryn - cefais fraw cyn sylweddoli mai tôn ar gyfer Iechyd a Diogelwch oedd hi er lles dilynwyr rygbi Lloegr, gan eu cynghori ble i roi eu cerbydau. Roedd y canu’n dyblu o ran ei nerth yn ystod y gân arbennig hon.
Aethom i’n seddi yn y stadiwm am hanner awr wedi tri, ac am chwarter i bedwar allan â nhw. Y Teirw Duon i ddechrau ac wedyn, gyda rhu byddarol, daeth Cymru ac wedyn Katherine Jenkins. Yn anffodus fe drodd ei chefn arnom i ganu, ond doedd ei phen ôl ddim yn annymunol ac felly fe gafodd faddeuant.
Daeth y gêm ei hun i ben ymhen chwinciad, a’r Teirw Duon yn llwyddo i ennill, ond cael a chael fuodd hi. Wedi’r gêm, aethom i gyfarfod â Jack a Judith am bryd o fwyd ac ychydig mwy o ddiod ac yna - Duw a uyr beth ddigwyddodd wedyn. Dwi’n cofio cyfarfod â Big Dave a Rhys ac yna golli Mel ac ymhen ychydig colli Big Dave a Rhys hefyd!
Ar wahân i hynny, roedd y noson ychydig yn niwlog imi. Gwn imi fwyta kebab rywbryd gan fod saws chili ar fy nghrys y bore wedyn.
Y bore wedyn, ar ôl brecwast wedi ffrio yn y gwesty a thro o gwmpas Bae Caerdydd, dyma ni’n gadael Caerdydd a mynd adre i Garrog gyda rhaglen y gêm a chyfrif banc tlotach o lawer i gofio’r daith.
Gareth Llan
© Copyright Gareth Bryan
© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated.