statcounter

       

Rhagfyr 2005

BYGYTHIAD I BONT CARROG

Nid erthygl Ffúl Ebrill gynnar na hwyr mo hon. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig codi pwysau’r cerbydau sy’n cael croesi Pont Carrog. Rydym eisoes wedi gweld cau’r bont pan geisiodd un cerbyd mawr fynd drosti, a chafodd rhai o’r cerrig copin eu handwyo yn ystod y misoedd a aeth heibio gan gerbydau eraill oedd yn rhy fawr i’r bont. Bydd y niwed hwn i’r bont gan gerbydau trwm yn gosod symbol pwysicaf Carrog mewn perygl, ac mae’n golygu anghyfleuster i gymunedau Carrog a’r Parc pan fo rhaid cau’r bont i’w thrwsio.

Cynyddir y pwysau o 17 tunnell i 18 tunnell, efallai nad yw hyn yn ymddangos yn bwysau anferth, ac yn sicr mae’r bont a adeiladodd cyndadau’r pentref 400 mlynedd yn ôl yn ddigon cryf i ddal y pwysau. Ond mae codi pwysau cerbyd yn golygu cerbyd hirach, a hyd y cerbyd yw’r bygythiad parhaol i’r bont. Ni all cerbydau hir ddelio âr ongl sgwâr ar ddau ben y bont, ond ar ôl cychwyn croesi’r bont maent yn benderfynol o ddal ati heb feddwl am y bont ei hun. Gan fod cysylltiad rhwng y pwysau a’r hyd, o reidrwydd, beth sydd ei angen yw gostyngiad mewn pwysau a byddai hynny’n lleihau’r difrod parhaol a wneir i’r bont. Os rydych yn teimlo’n gryf ynghylch y mater yma, mae cyngor proffesiynol yn awgrymu ichi ysgrifennu at CADW Plas Carew, Uned 5/7 Cefn Coed, Parc Nantgarw, Caerdydd CF15 7QQ.

© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated.