Hydref 2005
EFEILLIO / PLOUYÉ 2005
Cyrhaeddodd dau ar bymtheg ohonom Lydaw o gyfeiriadau gwahanol ar gyfer yr ymweliad efeillio. Daeth deuawd o bibyddion Llydaw i gyfarfod â’r rhai a ddaeth ar Fferi Roscoff , roedd ein gwesteion wedi bod mor feddylgar â’u darparu i chwythu’r we pry cop i ffwrdd ar ôl inni groesi’r sianel.
Dechreuodd y dathlu gyda chinio gydag aelodau o’r Pwyllgor Efeillio Plouyé er mwyn ein cyflwyno i fwyd Llydaw a’n paratoi ar gyfer y penwythnos.
Erbyn hyn ceir Cornel Carrog yn Plouyé, mae hon yn ardal amwynder yn y pentref sydd â Maen Hir yn ei chanol o garreg wenithfaen Llydaw. Roedd ein hymweliad i ddathlu agor y safle’n swyddogol, y llywydd oedd Marcel Le Guern, y maer, Marc Parayre (Llywyd y Pwyllgor Efeillio ) a Rhys Webb yn cynrychioli Carrog. Yn arwydd o’r achlysur cyflwynodd ein dirprwyaeth lechen ac arni eiriau yn y Gymraeg. Bydd hi’n cael ei gosod yn yr ardal maes o law.
Yfwyd llwncdestun i ddyfodol yr efeillio ac yna fe’n difyrrwyd gan fwy o fwyd a dawnsio a thân gwyllt mawreddog.
Ar fore dydd Sul cafodd ein parti gyfle naill ai i fynd i’r Eglwys neu i gael ein tywys am dro hamddenol o gwmpas rhannau hanesyddol y pentref. Cawsom ymweliad â thref gyfagos Pleyben, gyda’i heglwys hynafol a’i hamgueddfa Lydewig. Mae mynyddoedd Llydaw ychydig yn is na rhai Cymru. Dychwelsom i Plouyé dros y mynydd uchaf , Roc Trevezal, sy’n 384 metr o uchder ac yn dro bach hamddenol i Ddringwyr 3 chopa o Garrog, ond mae’n cymharu’n dda â’r Alban am nifer a ffyrnigrwydd y pryfed.
Roedd ein gwesteion wedi rhagweld y byddwn ar ein cythlwng ar ôl diwrnod hir gan baratoi barbiciw ar dir hen gapel adfeiliedig St. Maudez cyn mynd i Ty Elise - tafarndy hynafol Plouyé a gafodd ei redeg ers 25 o flynyddoedd gan Gymro o Ferthyr Tudful!
Yn ôl arwyddair y trip - “Dim cysgu ar y daith” ac “Ewch gyda’r llif” roeddwn i gyd ar ein traed yn gynnar ar ddydd Llun ar gyfer ymweliad â Bragdy Coreff yn Carhaix, ble cawsom daith dywysedig bersonol gan y Cyfarwyddwr Rheoli (a Maer y Dref) a’n hanogodd i flasu’r diodydd gwahanol. Cawsom orffwys ar lan yr afon i fwynhau picnic a baratodd ein gwesteion.
Mae Plouyé yn dal i gynnal ei sioe amaethyddol, yn debyg i un Carrog yn y gorffennol, ac roedd hi’n bleser cael gwahoddiad ar bwyllgor lleol y sioe. Cawsom weld gwartheg Holstein sydd â chynhyrchiad rhyfeddol o lefrith a gwelsom geffylau gwedd oedd yng ngeiriau un o’r parti “yn rhy fawr (1800 Kg.!) i fynd i un o focsys ceffylau Ifor Williams”.
Mae amaethyddiaeth yn cael ei gymryd o ddifrif yn Plouyé ac roedd dau aelod seneddol a gweinidog y Llywodraeth yn mwynhau’r diwrnod ac yn cymysgu mewn tymheredd o dros 30 gradd. Gofynnwyd i Rhys Webb gyflwyno’r tlws am yr anifail gorau yn y sioe. Yn ôl traddodiad, cyflwynir y gwobrau blynyddol mewn cinio mawreddog yn neuadd y pentref. Gwahoddwyd pawb o’n parti ni a chafwyd adloniant byrfyfyr gan y sawl oedd yn gallu cael gafael yn y meic gyntaf. Roedd y wledd yn cynnwys pump cwrs a gwin diderfyn gan roi cyfle inni roi mwy o gyflwyniadau yn ddiolch am yr holl groeso. Yn ei araith o groeso, addawodd llywydd y sioe y byddai holl ffermwyr Plouyé yn ymweld â Charrog, ond roeddent am ddod â’i hanifeiliaid hefyd.
Mae gennym lawer o atgofion melys am ein hymweliad ac rydym yn gobeithio estyn croeso i barti o Plouyé yma’r flwyddyn nesaf.
Cynhelir cyfarfod o Gymdeithas Efeillio Carrog/Llidiart y Parc yn y dyfodol agos, ac estynnir gwahoddiad i bawb.
© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.