Mehefin 2005 June
Newyddion y Neuadd
Cynhaliwyd cyfarfod o’r pwyllgor ar ddydd Llun 23 Mai, trafodwyd y materion canlynol:
| • | Mae mân fandaleiddio’n dal i ddigwydd i’r Neuadd. Crafwyd y drysau sydd newydd eu paentio unwaith eto. Ond penodwyd Swyddog Cymuned Newydd a bydd y rhif cysylltu’n cael ei ddangos er mwyn adrodd ar fandaliaeth a chofnodi’r digwyddiad. |
| • | Dechreuir rhaglen waith a fydd yn cynnwys ail-addurno’r tu mewn, trin y ffenest sydd wedi braenu a gosod llenni. Trafodir trefniadau mwy parhaol ar gyfer y siop/swyddfa’r post hefyd. Cytunwyd na ddylid chwarae gemau peli (ac eithrio tennis bwrdd) y tu mewn i’r Neuadd a dylid gwahardd defnyddio Blue Tack. Gosodir hysbysfyrddau iawn ar gyfer arddangos. |
| • | Dylai pob sefydliad sy’n defnyddio’r Neuadd ofalu bod cynrychiolydd yn bresennol ymhob cyfarfod, neu fel arall gall materion sy’n effeithio arnynt gael eu trafod heb iddynt gael cyfle i roi eu barn. |
| • | Mynegwyd pryder ynghylch yr ystafell snwcer a’r balconi yn ystod digwyddiadau preifat a chytunwyd y dylai’r rhai sy’n hurio’r neuadd gael mynediad i’r cyfleusterau sydd ar y llawr isaf yn unig. |
| • | Digwyddiadau i ddod - 17 Medi - Y Bont Bash. 12 Tachwedd – Noson y pedwardegau i ddathlu 60 ed pen-blwydd diwedd Rhyfel Byd II. |
| • | Codi arian at yr Urdd - Bydd Brynle Hughes yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau i godi pres ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ac yn ystod y cyfnod hwn ni fydd unrhyw ddigwyddiadau codi arian ar gyfer y Neuadd. |
| • | Mae’r Neuadd erbyn hyn mewn sefyllfa ariannol gadarnach, oherwydd Loteri’r Neuadd i rannau helaeth. Mae’r aelodaeth erbyn hyn yn 35, ond mae angen mwy o aelodau arnom. Os ydych chi’n aelod, anogwch aelodau eraill i ymuno. Os nad ydych chi’n aelod, ymunwch â ni. |
Cewch gopiau o gofnodion y cyfarfod oddi wrth Mrs Janice Sheasby, yr Ysgrifennydd.
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.