Ebrill 2005 April

NEWYDDION YSGOL CARROG
Llongyfarchiadau I bawb a fu’n cystadlu yn Eiteddfod sir yr Urdd yn Ysgol Brynhyfryd Ruthin. Cafodd Alice, Eleanor a Sioned 3ydd yn y grwp Chwythbrennau. Bydd Pagan yn mynd ymlaen I Gaerdydd ar ol ennill 1af am Lefaru o dan 8I ddysgwyr.
Aeth bechgyn blwyddyn 6 I Langollen I greu tim Rygbi gyda bechgyn Ysgolion Glyndyfrdwy a Llantysilio. Mae pawb ym Mlwyddyn 6 wedi pasio eu ‘Personal Survival’ ym mhwll nofio Corwen.
Roedd 6 Bwni Bach a 1 Bwni Mawr yn Ysgol Carrog cyn y Pasg ac roedd pawb yn sidro lle cafoodd Anti Jan y clustiau smart yna!
Aeth Bl 5 & 6 I Ruthin I weithdy beics yn ddiweddar. Roedd cyfle I ddysgu am ofalaeth beics yn ogystal a chael reidio beics go ryfedd. Cafodd Bethany a Sioned grys-T a sticeri am am ennill gwobr mewn cystadleuaeth Diogelwchh Ffordd y Sir.
Cafwyd Gwasanaeth Pasg yn yr Eglwys gyda’r plant yn canu emynau Pasg ac yn adrodd cerddi. Cyflwynwyd tair gardd Pasg I’r Eglwys, wedi eu gwneud gan y Clwb ar ol Ysgol, a bu’r plant cynradd yn brysur yn creu lluniau I’w harddangos yn Eglwys Corwen.
Daeth Sali Mali I’r Ysgol I ganu caneuon gyda’r plant bach tra bu’r plant Iau yn gwrando ar y grwp Epitaph yn y Neuadd. Cafodd y gweithgareddau eu trefnu gan y Bwrdd Iaith.
Trefnwyd Noson Grefft llwyddiannus iawn yn y Neuadd gan y PTFA . Roedd 6 o wahanol grefftau yn cael eu harddangos gyda chyfle I bawb droi ei llaw arnynt. Ennillwyd yr hamper Pasg gan Mandy.
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.