Mawrth 2005 March
TEITHIAU YM MRO’R BONT
I gael gwybod mwy tarwch olwg ar ‘O Gwmpas yn Sir Ddinbych 2005’ - llyfryn am ddim o’r llyfrgell.
Dydd Gwener 25 Mawrth
Llwybr Hanes Llangollen 10 am - 4 pm 6 milltir.
Ymunwch â ni ar y daith gerdded dywysedig gyntaf ar hyd Llwybr Hanes Llangollen a agorwyd yn ddiweddar. Dilynwch y llwybr drwy gefn gwlad syfrdanol ardal Llangollen a darganfod hanes yr ardal. Cyfarfod Llantysilio. SJ198433. 3
Dydd Mercher 30 Mawrth
Corwen Hanesyddol 11 am - 3 pm 5 milltir.
Dewch i ddarganfod cefn gwlad ardal Corwen a’r hen hanesion, ymweld â Phen y Pigyn a Chaer Drewyn - Caer Oes yr Haearn. Man cyfarfod - prif faes parcio, Corwen. SJ079436. 2.
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.