Rhagfyr 2004 December

Neuadd Carrog - Agwedd Un - Pwrcasu
Erbyn hyn mae’r gwaith caled a oedd ynghlwm a chreu ein Neuadd yn dechrau talu ac rydym yn gweld ffrwyth ein gwaith. Efallai bod yn amser wedi dod I ni edrych yn ol ar hanes y Neuadd a sut iddi gychwyn. Rydym yn falch iawn ohoni ond yn 1977 hen adeilad Ysgol yr Eglwys oedd y Neuadd, yr Ysgol ei hun wedi cau ers 1923. Ers hynny mae wedi cael ei defnyddio fel Neuadd Eglwys ac hefyd fel ystafell fwyta I ddisgyblion y ‘National School’. Trwy lwc roedd dynes yn y pentref yn digwydd bod yn darllen y ‘London Gazette’ pan welodd hysbyseb fod ‘the old Church School and Adjoining Masters House of Carrog’ ar werth. Cafodd y cynghorwyr lleol wybod ac fe aeth tri o drigolion Carrog I weld Esgob Llanelwy. Yn anffodus cafwyd atebiad negyddol, ond yn hwyrach cafodd Cyngor Eglwys Llansanffraid Glyndyfrdwy wybod fod Comisiynwyr yr Eglwys yn fodlon gwerthu adeilad yr ysgol heb y ty am £1250.
Galwyd cyfarfod cyhoeddus ar 27ain o Hydref 1977 I drafod y posibilrwydd o brynnu’r hen ysgol a’I droi’n Neuadd Bentref. Daeth rhwng 40 a 50 o bobl I’r cyfarfod ynghyd a chynrychiolydd o Wasanaeth Gwirfodol Clwyd a oedd yn awyddus I roi cymorth. Heb ormod o ffwdan penderfynnwyd creu pwyllgor I fynd ati I brynnu’r hen ysgol.
Rhoddodd cynrychiolydd y Sir gymorth - sut I gofrestru fel elusen gyda enwau pawb, ceisio am grantiau y.b Roedd yn rhaid I’r gymuned dod o hyd I 25% o gost y grant. Nid yw £1,250 yn swm mawr heddiw ond yn 1977 roedd yn dasg go arw I’r trigolion - tua 300 ohonynt - I godi’r swm yma.
Oedd cyfarfod arall wedi ei drefnu cyn gynted a bo pob grwp wedi penderfynnu ar gynrychiolydd I ymuno a’r pedwar cynghorydd o Gyngor Sir Clwyd, Glyndwr, Corwen a Llansanffraid I fod yn aelodau o’r pwyllgor fel a ganlyn - Capel Methodist, Bedyddwyr ac Annibynnwyr Yr Eglwys, Yr glwys Gatholig, WI, Groes Goch y WEA, ymddiriedolwyr Sioe Carrog a.r Henoed. Ar yr 23ain o Dachwedd daethant at eu gilydd I ethol Cadeirydd a swyddogion. Agorwyd Cyfrif ym Manc National Westminster yng Nghorwen, a trafodwyd modd o godi arian - Canu Carolau , Whist ac arwerthiant nwyddau. Aethant ymlaen I wneud rhestr o gyn-drigolion Carrog a chyn- ddisgyblion yr ysgol gyda’r bwriad o ofyn iddynt am gyfraniad . Yn ystod y cyfarfodydd nesa’ ysgrifennwyd cyfansoddiad, ac fe apwyntiwyd cyfreithiwr. Dewisiwyd saith ymddiriedolwr a gwnaethpwyd geisiadau am grantiau. Roedd yn ofynnol cael yswiriant hefyd. Erbyn Mis Ionawr fe gyrhaeddodd grantiau gan Llansanffraid a Chorwen yn ogystal a nifer o gyfraniadau.
Roedd £40 ar ol yn dilyn dathliadau Jiwbili Arian a cafwyd £150 gan ymddiriedolwyr Sioe Carrog ar ol I’r Sioe ddod I ben. Cafwyd £113 gan ddwy ddynes ar ol iddynt fynd o gwmpas yn casglu papur wast I’w werthu. Gwnaeth un gwilt a’I werthu am £50. Roedd cystadleuthau yn y Grouse a cychwynwyd Clwb 100. Cowyd £242 mewn arwerthiant a £61 mewn Gyrfa Whist. Cafwyd Bore Goffi mewn un ty tra roedd eraill yn canu carolau o gwmpas y pentref gan godi £33. Roedd nifer o bobl yn hael iawn gyda’I rhoddion. Mewn cyfarfod ar y 4ydd o Fis Ebrill cyhoeddodd y Trysorydd fod £905 mewn llaw ar ol talu am yr adeilad. Y rhan nesaf oedd I adnewyddu’r adeilad gan gynnwys toiledau, cegin y.b er mwyn ei wneud yn addas ar gyfer ei ddefnyddio fel Neuadd Bentref.. Roedd yn rhaid trefnu cyfarfod gyda pensaer ac yna mynd ati I feddwl am fwy o syniadau I godi arian.
Valmai Webb
Rhagfyr 2004
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article