Rhagfyr 2004 December
Weli’s a Berfa
Yn ol bob son mae ‘Welsh Blacks’ I fod yn frid gwydn yn gallu byw a’r dir prin ac mewn tywydd drwg. Mae ffermwyr yn gyffredinol yn coelio hyn yn ogystal a unrhyw un sydd wedi gweld buwch mewn cae. Yn anffodus nid yw fy merched I wedi clywed am gymeriad eu brid. Yn dilyn un cawod o eira yn ddiweddar roedd bob un ohonynt yn sefyll y tu allan I’r ty yn rhoi datganiad o’r ‘Bohemian Rhapsody’ yn oriau man y bore. Doedd gwair yn fawr o gysur gan iddynt ddal ymlaen I ganu braidd yn uchel.
Rwyf wedi cael tipyn o drafferth gyda gwartheg dros yr wythnosau diwethaf. Wrth I mi fuddsoddi’n wirion mewn eitem yn Ocsiwn y Neuadd, roedd pedwar o’r bustuch yn hapus gwneud eu ffordd tuag at Corwen. Yn ffodus fe ddaeth Matthew Scott I ddweud wrthyf ac fe lwyddais I’w troi tuag adref heb ormod o drafferth. Cafodd Helga lo bach y noson o’r blaen.Roeddwn yn gobeithio na fyddai hi’n hir ond roedd yn ddigon hapus I aros tan 3.30 yn y bore. I fod yn deg fe weithiodd yn galed ar ei phen ei hun heb gymorth gennyf I gan gynhyrchu llo bach gwerth ei weld. Am ychydig ddyddiau wedyn nid oedd modd edrych ar y llo hyd yn oed heb I Helga wylltio’n gacwn. Roedd yn rhaid I mi daflu’r bwyd I mewn yn ddistaw a rhedeg am fy mywyd cyn I Helga fy nghornelu.
Mae’r rhan fwyaf o’r wyn wedi mynd erbyn hyn gyda 45 ar ol yn barod I’w pesgi. Rwyf wedi gwario ffortiwn ar fwyd a llwyth o wair. Maent yn llawn fitaminau a wedi cael dos yn erbyn llyngair.
Rwyf wedi gwneud popeth arwahan I ganu I’w gyrru I gysgu, ond er gwaethaf hyn nid ydynt yn dangos unrhyw arwydd o wella. Go brin y ca’I wneud fy ffortiwn efo’r criw yma.
Gareth Llan
© Gareth Bryan 2004
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article