Rhagfyr 2004 December
Materion Iechyd
Wrth I’r Nadolig agosau a dod feddwol yn chwarae rhan yn rhai o’r dathliadau mae’n debyg y bydd ambell un ohonom yn dioiddef o ‘hangover’ nawr ac yn y man.Mae gan yr unigolyn ffyrdd o ddelio a hyn, ond a ydynt yn gweithio? Os nad ydynt efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn darllen y ‘top 10’ sydd gennyf I wella’r symptomau. I’w defnyddio gyda phwyll wrth gwrs !!
1. Llysywen wedi ei sychu - Yn ystod y canol oesoedd roedd meddwon yn llyncu platiaid o almwnd chwerw a llysywen wedi ei sychu. Nid rhywbeth a oedd yn blasu’n dda iawn y peth cyntaf yn y bore, ond yn llawn maeth ac yn newid o dwrci!
2. Llyfu halen - Roedd tylwyth Indiaid America yn rhedeg o gwmpas nes codi chwys ac yna’n llyfu’r chwys oddi ar ei cyrff a’I boeri allan I wared y corff o unrhyw wenwyn. Yn fy marn I , ni ddylid gwneud hyn yn gyhoeddus!
3. Voodoo - Roedd pobl voodoo Haiti yn argymell sticio tri a’r ddeg I binau yng nghorcyn y botel , gwerth rhoi cynnig arni ond dylai’r rhai sy’n yfed cryn dipyn brynnu mewn ‘bulk’. Dylid osgoi poteli sy’n cau gyda sgriw os ydych am roi cynnig ar hyn !
4. Rhwb Lemwn - Ym Mheuerto Rico byddant yn rhwbio lemwn o dal gesail y fraich yfed. Peidiwch a rhoi cynnig ar hyn ar ol eillio ferched ! Cred rhai mai’r ffordd mae’r lemwn yn cael ei rwbio sy’n bwysig gyda’r cloc yn y Gogledd ac yn erbyn y cloc yn y De. Defnyddiol os ydych yn hoffi lemwn yn eich gin a thonic.
5. Huddygl - Yn ystod y 19eg roedd ysgubwyr simne yn coelio mewn cymysgedd o huddygl a llefrith. Roedd posib casglu huddygl mewn manau penodedig os nad oedd gennych dan glo.
6. Baw Cwningen - Yn ol yr hanes, yn y Gorllewin Gwyllt roedd y cowboys a oedd yn yfed whisgi yn yfed cwpanaid o faw cwningen. Rwy’n argymell ‘mouthwash’ go dda cyn cusanu neb ar ol hyn.
7. Llygaid Defaid - Yn ‘Outer Mongolia’ byddai meddwod yn llyncu llygad dafad wedi ei ‘fficlo’ gyda sudd tomato. Efallai y cawn weld potelaid o’r rhain ar y bar yn lle wyau wedi’i piclo!
8. Past Assyria - Yn Ne Affrica dyma’r feddyginiaeth I bob ‘hangover’ - Un llwy de o big gwennol wedi ei dorri’n fan a’I gymysgu gyda un llwy de o fyrr (tymhorol iawn). Roeddent yn argymmell ei lyncu’n gyflym a’I olchi I lawr gyda gwydriad o ddwr. Rwy’n gallu dychmygu lle I hwn mewn sawl rhewgell dros yr wyl! Os nad yw un o’r rhain yn gweithio fe allwch roi cynnig ar rai mwy traddodiadol.
9. Tost wedi’I losgi - mae hwn I fod I weithio er nad ydwyf wedi rhoi cynnig arno fy hun. Os nad yw’n gweithio bydd y blas ofnadwy yn gwneud I chi anghifio am eich cur pen am dipyn.
10. Blewyn y ci - Mae gwydriad o alcohol clir e.e ‘vodka’ y bore wedyn wedi cael ei brofi’n wyddonol I greu rhwystr yn rhannau o’r ymennydd sy’n achosi ‘hangover’ - ma’e gweithio ond I chi gael un gwydriad yn unig!
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article