statcounter

       

Awst 2004 August

Llythyrau

All letters must be accompanied by name and address of the writers.
Opinions expressed in letters to “Y Bont” are purely those of the writers, however the editors reserve the right to edit letters submitted.

Annwyl Olygydd,

Gan gyfeirio at yr erthygl “A Village is For Life, not just for Christmas” Rwyf yn cytuno gyda’r awdur with iddo ddweud fod Carrog yn le prydferth. Hefyd y gall tai haf gael eu defnyddio yn well i gartrefu bobl lleol. Yn anffodus mae Tai Haf yn un o ffeithiau bywyd mewn ardal wledig fel hon, un a’i yng Nghymru, Lloegr neu ar y cyfandir. Er fod hon yn sefyllfa anodd newid, mae nifer o bethau y gall y Cynghorhau lleol ei wneud. Un awgrym yw i ddwblu treth ar v y tai nad ydynt yn cael eu defnyddio drwy’r flwyddyn. Gall yr arian ychwanegol wedyn gael ei ddefnyddio gan y pentref i alluogi gwaith ar Neuaddau pentref y.b. Ni fuasai 11 mwy o dai o angenrheidrwydd yn golygu 22 mwy o oedolion a 22 mwy o blant. Pe buasai hyn yn ffaith, a fuasai hyn yn cael llawer o effaith ar fusnesau lleol. Roedd y Siop ar agor hyd at ychydig fisoedd yn ol. Mae nifer o ffactorau wedi bod yn gyfrifol am iddo gau. Mae mwy o bobl yn teithio i archfarchnadau nag yn y gorffennol, ac mae pensiwn yn cael ei dalu i mewn i’r banc. Dim ond dau ffactor yw hyn ond mae’n debyg fod yna rai ychwanegol. Mae’r dafarn yn brysur iawn yrn misoedcl yr Haf ers dyfodiad y Rheiffordd ac agoriad y Maes Campio. Ydy, mae misoedd y Gaeaf yn ddistaw, ond efallai y gellir goroesi hyn trwy ail gychwyn y tim dartiau a ‘pool’. Beth am ail gychwyn y noson gwis ar nos Fercher? Mae nifer o ffyrdd I annog masnach yn ystod Misoedd y Gaeaf, nid 11 o deuluoedd ychwanegol yw’r unig ateb. A fuasai 11 mwy o deuluoedd yn golygu mwy o gynulleidfa yn y Capel neu’r Eglwys? Mae cynulleidfaoedd wedi bod yn lleihau ers blynyddoedd. Efallai gan nad yw’r lefydd yma wedi newid ers blynyddoedd, ac nad oes digon yn cael ei wneud i annog bobl ifanc - mae’r gynulleifa’n mynd yn hyn felly, heb gynulleifa ifanc yn dod i mewn. Nid wyf yn credu y buasai newid tai haf yn gartrefi bobl lleol yn cael effaith fawr ar y pentref. Un ffordd o achub llefydd fel y Capeli, yr eglwys, a’r Siop (er ei fod yn rhy hwyr i’r Siop) yw fod bobl lleol eu defnyddio. Wedi’r cwbl mae oddeutu 400 o drigolion yng Ngharrog. Os ydych yn meddwl nad yw’r llefydd hyn yn cynnig gwasanaeth gwerth ei gael \yna gwnewch awgrymiadau i’r bobl sydd yn eu rhedeg. Efallai fod gennych awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau yn y Pentref yn ystod y Gaeaf. Rwy’n siwr y byddent yn falch o glywed gennych.

Un pwynt i orffen. Oes, mae angen tai newydd yng Ngharrog ac mae Cae’r Efail yn cae prydferth, ac mi fydd yn drueni ei weld yn diflannu os yw’r cynlluniau yn mynd yn eu blaen. Ond pa ddewis arall sydd? (arwahan I ail-gydio yn y tai haf) Efallai fod rhai wedi gwrthwynebu i adeiladu Maes y Llan, neu’r tai arall sydd wedi eu hadeiladau yn y pentref yn y 50 mlynedd diwethaf.. Mae angen cadwr to ifanc yn y pentref, hebddynt ni fydd cenhedlaeth newydd ac felly dim Ysgol Tafam Eglwys, Capel na Neuadd. Yr unig ffordd i’w cadw yw i adeiladu tai newydd.

Eric Lea.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Annwyl Olygydd,

Gan gyfeirio at y sylwadau ein bod yn gymuned ddiog. Rwy’n cytuno’n llwyr, ond rwy’n siwr fod pawb yn cytuno fod angen arwyddion ffordd yn Llidiart y Parc, Hefyd arwyddion pwysau ar y Bont. Rhaid arbed gorfod trwsio’r bont unwaith eto, er mor drylwyr a chyflym oedd gwaith y contractwyr. Gan gyfeirio at yr erthygl. “A village is for Life, not just for Christmas” rwy’n cael trafferth meddwl am y 11 o gartrefi gwag. Rwyf yn cytuno fodd bynnag y dylid defnyddio’r tai yma yn lle adeiladu mwy ar dir anweddus gan obeithio y buasai’r trigolion yn defnyddio’r siop, os ydym yn ddigon ffodus i gael un.

Beryl Hindley.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Rhoda Dyffryn Dyfrdwy

Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un brysur iawn i mi. Fe ddechreuais ar Rodfa Dyffryn Dyfrdwy Mis Ebnll diwetha’. 15 milltir ar hyd mynyddoedd Llantysilio o Langollen i Gorwen gan basio pentrefi bach ar hyd y ffordd. Cafodd y prosiect ei gychwyn gan y ‘Business Action Group’ lleol ac fe gafwyd arian gan Cadwyn Clwyd ac Adfywio.

Mae’r daith yn pasio trwy Garrog, mae’nsiwr eich bod wedi gweld yr arwyddion yn mynd i fyny, a gobeithio y bydd busnesau lleol yn elwa’r cerddwyr. Nid ar gyfer ymwelwyr yn unig y mae’r daith. Mae’n gyfle i bobl lleol fwynhau golygfeydd arbennig, natur a bywyd gwyllt.

Bydd gwybodaeth am y daith ar gael a fydd wedi ei gwblhau yn y misoedd nesaf. Bydd cyfle i gwblhau taith o 10 milltir gyda mi fel rhan o’r wyl gerdded ar Ddydd Sul l9eg o Fedi.

Hoffwn ddiolch I bawb yn y pentref sydd wedi cefnogi’r prosiect.

Samantha Williams

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article