Awst 2004 August
Weli’s a Berfa
Rwyf wedi dod i’r canlyniad fod rhywun pwysig ym Mrwsel wedi newid y gyfraith ynghlyn a Haf Cymru. Yn lle dyddiau hir a heulog rydym yri gorfod dioddef dyddiau dwl, gwlyb a diflas.
Bu Arwel Bach yn torri fy nghae cyntaf yr wythnos ddiwethaf ar ddechrau beth alwodd Mr. Fish (gwirion) y sbel braf - ac yna death y monswn y munud iddo orffen. Dim ond un cae o wair canolig sydd yn y sied hyd yn hyn, gyda’r gweddill un a71 yn aros i gael ei dorri neu’n pydru yn y cae, Rwy’n siwr fod y bechgyn sy’n gorfod ei gario yn gweddio am dywydd braf, ar ol dioddef poen cefn a swigod y tro diwetha’. Os oes yn rhaid iddynt symud mwy o wair mi fydd £100 yr awr yn ddigon iddynt. Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi llwyddo i werthu rhai o wyn eleni. Mae’r prisiau’n go isel, ond gan edrych ar yr ochr orau - dim ond mil o bunoedd yn fyr o’r mil cyntaf ydw I I
Gan fod y glaw yn ein bygwth, fe benderfynnais ddisbaddu a di-gornio’r lloi. Fel arfer mae hyn yn golygu llawer o chwysu, cleisiau a ‘rodeo’ erbyn I mi orffen. Yflwyddyn hon fodd bynnag cefais fenthyg crat lloi David Rogers, Cafodd y gwaith ei gwblhau mewn dim amser, heb ormod o straen i’r lloi a dim ond un cic. Mi fydd yn rhaid i mi roi “crat lloi’ ar fy rhestr o bethau handi i brynu rhywdro yn y dyfodol, Mae’r siecl yn dod yn araf Ñ ond mi fasa’n well gen i beidio siarad am hwn.
Gareth Llan.
© Copyright Gareth Bryan - 2004
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article