Awst 2004 August
Golygyddol
Cafodd ein sylwadau y Mis diwethaf ynglyn ag ysgogi’r Cyngor Sir I wneud rhywbeth ynglyn a’r arwyddion ffordd eu gweld gan rai fel sarhad i Rhys Webb sydd newydd ymddeol fel Cynghorydd, Nid dyma oedd ein bwriad o gwbl a’r Mis yma mae gennym erthygl sy’n coffau ei yrfa hir a’i wasanaeth i’r gymuned. Mae Carrog yn amlwg yn y Sir oherwydd ei waith caled ar hycl y blynyddoedd gan ei fod yn byw yma. Gan na fydd ein Cynhorydd lleol yn byw yn y pentref o hyn allan, a fydd Carrog yn cael ei gydnabod mor bwysig yn y dyfodol? Nid yw hyn yn sarhad ar ein Cynghorydd newydd ond mae 55 mlynedd o wasanaeth a phrofiad yn y gwasanaeth cyhoeddus yn anodd iw ddilyn.
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article