statcounter

       

Awst 2004 August

This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

Golygyddol Cyng. W. R. Webb OBE * Ysgol Carrog a Kan Breizh
Marwolaeth Parc I Ymwelwyr
Weli’s a Berfa Rhys “Y Sweep” Loteri’r Neuadd
Dyddiadur Iechyd Llongyfarchiadau
Williams a Ventre   Llythyrau

Golygyddol

Cafodd ein sylwadau y Mis diwethaf ynglyn ag ysgogi’r Cyngor Sir I wneud rhywbeth ynglyn a’r arwyddion ffordd eu gweld gan rai fel sarhad i Rhys Webb sydd newydd ymddeol fel Cynghorydd, Nid dyma oedd ein bwriad o gwbl a’r Mis yma mae gennym erthygl sy’n coffau ei yrfa hir a’i wasanaeth i’r gymuned. Mae Carrog yn amlwg yn y Sir oherwydd ei waith caled ar hycl y blynyddoedd gan ei fod yn byw yma. Gan na fydd ein Cynhorydd lleol yn byw yn y pentref o hyn allan, a fydd Carrog yn cael ei gydnabod mor bwysig yn y dyfodol? Nid yw hyn yn sarhad ar ein Cynghorydd newydd ond mae 55 mlynedd o wasanaeth a phrofiad yn y gwasanaeth cyhoeddus yn anodd iw ddilyn.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Pum-Deg Pum Mlynedd O Wasanaeth Cysegredig - Anodd I’w Ddilyn

Mae’r cynghorydd Rhys Webb yn ymddeol ar ol 55 mlynedd o wasanaeth llawn di-doriad, ac mae’n debyg nad oes Cynghorydd arall wedi bod gyda’r Sir cyhyd ar ol 46 mlynedd o wasanaeth.

Yn 1949 cafodd ei ethol ar Gyngor Lleol Llansantffraid Glyndyfrdwy ond erbyn 1958 roedd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol I Gyngor Sir Meirioneth. Ar ol ei ethol fe fu’ n Gynghorydd Sir i Edeyrnion hyd heddiw, yn. gweld newidiadau i’r Sir ac enw Siroedd. Bu’n ymgeisydd annibynnol ar hyd yr amser gan goelio fod hyn yn galluogi iddo wasanaethu’r gymuned heb orfod dilyn rheolau parti arbennig.

Bu’n gysylltiedig a nifer o weithgareddau lleol, yn elusenau ac yn weithgareddau llywodraethol ac yn Gadeirydd ar nifer o bwyllgorau yn cynnwys: Polisi Cyllid ac Adnoddau, Cynllunio Ffyrdd a Thrafnidiaeth, Llyfrgelloedd Diwylliant ac Adloniant.

O 1959 hyd at 1974 bu’n gwasanaethu ar nifer o Bwyllgorau Rheoli Ysbytai yn cynnwys Ysbyty Mae lor, Wrecsam a hen Ysbyty Gogledd Cymru. Bu hefyd yn aelod o Bwyllgor lechyd Meirioneth.

Yn 1969 daeth yn Henadur ac yn 1972 yn Gadeirydd Cyngor Sir Meirioneth a Cyngor Sir Clwyd yn 1982 gan ddilyn fel arweinydd Grwp Cynghorydd Annibynnol. Yn 1995 cafodd ei ethol fel Cadeirydd cyntaf Cyngor Sir Ddinbych a Dirprwy Swyddog Cymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru.

Mae hefyd wedi bod yn aelod o Fwrdd Awdurdod Tir i Gymru a Heddlu Gogledd Cymru am 20 mlynedd lle death yn Gadeirydd.

Rhywfodd, rhwng y gweithgareddau llywodraethol yma i gyd fe lwyddodd ifod yn:

• Llywodraethwr yn Theatr Clwyd ac yn Gacleirydd am bedair mlynedd.
• Llywodraethwr yn Ysgol Carrog ers 1949 a Dinas Bran ers 1974
• Ynad Heddwch am 23 mlynedd ac yna yn Gadeirydd y Fainc.
• Aelod o Gyngor Chwaraeon Cymru.

Fe sicrhaodd fod Cysgod y Gaer a’r Ganolfan lechyd yn cael eu hadeiladu yng Nghorwen a bod grant ar gael ar gyfer y Pafiliwn.

Yn 1996 cafodd O.B.E am wasanaeth i’r gymuned.

With edrych yn ol ar ei yrfa dywedodd mai’r 20 mlynedd gyda heddlu Cymru a’r 14 mlynedd gyda Awdurdod Tir Cymru oedd yr uchafbwyntiau. Dywedodd; “Hoffwn ddiolch I bawb yn Edeyrnion am eu cefnogaetli dros y blynyddoedi ac yn enwedig i pobl Llidiart y Pare a Charrog ond yn fwy arbennig i’m gwraig, Valmai. Heb ei chymorth a’l dealltwriaeth ni fyddwn wedi bod yn gynghorydd am gyhyd. Hoffwn hefyd ddymuno’n dda I Nigel gan obeithio iddo gael cymaint o bleser ac a gefais i”.

Mae wedi ei siomi nad yw wedi gweld cynlluniau ar gyfer comin Corwen (14 acer o gwmpas pafiliwn Corwen) yn cael ei cyflawni cyn iddo ymddeol ond mae’n credu y bydd hyn yn digwydd o fewn ychydig o flynyddoedd gan ddod ag estyniad i’r rheilffordd, gwell pafiliwn a llawer mwy.

Fel Cynghorydd poblogaidd mae Rhys Webb wedi rhoi Carrog ar y map. Nid oes yn rhaid i neb esbonio i’r Cyngor Sir ble mae Carrog. Am y tro cyntaf mewn 46 mlynedd ni fydd cysylltiad uniongyrchol rhwng Carrog a’r Cyngor Sir ac efallai bydd rhai yn gofyn Ble mae, “Carrog? Yn y dyfodol?”.

Rydym yn gobeithio y caiff rhys a Valmai ymddeoliad hapus, gweithgar a hir.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* Ysgol Carrog a Kan Breizh

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod cafodd disgyblion Ysgol Carrog amser wrth eu bodd yng nghwmni grwp o ddawnswyr o Lydaw - Kan Breizh a oedd yn aros yn y Neuadd. Fe ganodd y plant yn Gymraeg, Saesneg a Ffraneg ac fe chwaraeodd y grwp recorders ‘waltz’ draddodiadol, Cafodd y plant gyfle i ddysgu dawnsfeydd traddodadol Llydaweg. Cyfle gwych i atgyfnerthu’r cyswllt a Llydaw.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Marwolaeth

Johnny ‘Keeper’ Evans a fu farw Ddydd lau 29ain o Orffennaf yn Ysbyty Maelor, Wrecsam yn 54 mlwydd oed. Mab Gladwen, a’r diweddar Albert Evans, gynt o Parc Cottage. Mae’n gadael ei fam, Gladwen, Chwaer, Rose, Brawd yng nghyfraith, Bob a nai, Colin. Cynhaliwyd angladd ar Ddydd Gwener fed o Orffenaf yn yr amlosgfa.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Speed Limit through Parc

The following is reported by Janet Fox:

I have finally got around to chasing up the Welsh Assembly regarding the speed limit on the A5 and just received their reply dated the 3rd of August.

A site meeting with representtives of North Wales Police and Denbighshire County Coucil, to discuss the road conditions in Llidiart y Parc, was held on the 29th January 2004. As a result of the meeting the technical, legal and administrative processing of a proposed 40mph Speed Limit Order was started by the Welsh Assembly Government in March 2004.

Unfortuntely, delays have been encountered in dealing with legal queries as to whether a ‘derestriction’ order is in existence for the street lighting zone in Llidiart y Parc. It is hoped to resolve,this query in the near future and for the Speed Limit Order to be published, in draft form, in the next 3 - 6 months. Assuming there are no objections to the draft Order then the Order is likely to come into force 2 - 3 months later. I am afraid these dates are approximate and are subject to the availability of resources and competing priorities.

Signed

N.Fenby.

Not cast in stone but getting there.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Croeso I Ymwelwyr

Croeso I ymwelwyr o’r Iseldiroedd a sydd wedi bod yn aros yn y pentref. Mae Volkuniversiteit Haarlem wedi bod yn rhedeg cyrsiau Saesneg I fyfyrwyr o’r Iseldiroedd am wythnos. Dewiswyd Carrog ar ol i’r trefnwyr ymweld a Charrog y flwyddyn diwethaf.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Weli’s a Berfa

Rwyf wedi dod i’r canlyniad fod rhywun pwysig ym Mrwsel wedi newid y gyfraith ynghlyn a Haf Cymru. Yn lle dyddiau hir a heulog rydym yri gorfod dioddef dyddiau dwl, gwlyb a diflas.

Bu Arwel Bach yn torri fy nghae cyntaf yr wythnos ddiwethaf ar ddechrau beth alwodd Mr Fish (gwirion) y sbel braf - ac yna death y monswn y munud iddo orffen. Dim ond un cae o wair canolig sydd yn y sied hyd yn hyn, gyda’r gweddill un a71 yn aros i gael ei dorri neu’n pydru yn y cae, Rwy’n siwr fod y bechgyn sy’n gorfod ei gario yn gweddio am dywydd braf, ar ol dioddef poen cefn a swigod y tro diwetha’. Os oes yn rhaid iddynt symud mwy o wair mi fydd £100 yr awr yn ddigon iddynt.. Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi llwyddo i werthu rhai o wyn eleni. Mae’r prisiau’n go isel, ond gan edrych ar yr ochr orau - dim ond mil o bunoedd yn fyr o’r mil cyntaf ydw I I

Gan fod y glaw yn ein bygwth, fe benderfynnais ddisbaddu a di-gornio’r lloi. Fel arfer mae hyn yn golygu llawer o chwysu, cleisiau a ‘rodeo’ erbyn I mi orffen. Yflwyddyn hon fodd bynnag cefais fenthyg crat lloi David Rogers, Cafodd y gwaith ei gwblhau mewn dim amser, heb ormod o straen i’r lloi a dim ond un cic. Mi fydd yn rhaid i mi roi “crat lloi’ ar fy rhestr o bethau handi i brynu rhywdro yn y dyfodol, Mae’r siecl yn dod yn araf Ń ond mi fasa’n well gen i beidio siarad am hwn.

Gareth llan

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Rhys y “Sweep”

Nawr yw’r amser i feddwl am lanhau eich simdde, Mae Chris “Grouse” yn cynnig hel enwan os oes gennych ddiddordeb. Postiwch eich enw a rhif ffon trwy ddrws Chris, 14, Maes y Llan os oes gennych ddiddordeb. Mi wnaiff Rhys gysylltu a chi i drefnu amser.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Ennillwyr Loteri’r Neuadd - Gorffennaf

laf - Rhif 28 - Mr and Mrs A. Jones, Maes y Llan - £20
2il - Rhif 19 - Mr B Hughes, Llidiart y Parc - £10

Os nad ydych wedi ymuno hyd yn hyn ac fe hoffech wneud. Cysylltwch a Dave Jones ar 430636.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Dyddiadaur

Ffair Haf - Dydd Sadwrn 14eg o Awst. “Y Bont” Benefit Bash - Dydd Sadwm 2il o Hydref. Mae un act eisioes wedi ei fwcio. Gadewch I ni wybod os oes gennych unrhyw awgrymiadau.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Materion Iechyd

Sut i edrych am arwyddion o gancr y croen:

Sefwch o flaen drych hir a defnyddiwch ddrych llaw I archwilio eich croen, cofiwch edrvch ar wadnau eich traed eich clustiau a’ch pen. Edrychwch am unrhyw newidiadau mewn man geni (mole) neu fan geni newydd. Dylai unrhyw fan geni sy’n ymddangos ar ol 30 oed gael ei wylio’n ofalus a’i ddangos i’r meddyg.

Gall rheol ‘ABCDE’ fod o gymorth I chi pan yn edrych am arwyddion o gancr y croen. Wrth i chi archwilio’r croen edrychwch am y canlynol:

 A ‘assymetry’ - man geni nad yw’n edrych yr un fath with ei rannu.
B ‘border’ -man geni a’i ymylon ynysgithrog.
C ‘colour’ - newidiadau mewn lliw yn gynwys yn dywyllach neu’n tyfu. Man geni sy’n colli lliw, neu nifer o liwiau megis glas, coch, gwyn neu bine, piws neu Iwyd.
D ‘diameter’ -Man geni sy’n fwy na 1/4 modfedd mewn diamedr ( maint rwber ar ben pensil)
E ‘elevation’ -Man geni sy’n codi a chanddo arwyneb anwastad. Dylech hefyd wylio’r canlynol:
   • man geni sy’n gwaedu
  Man geni sy’n tyfu’n gyflym
  Tyfiant crystiog ar y croen
  Briw sy’n gwrthod gwella
  Man geni sy’n cosi
  Man ar eich croen sy’n teimlo’n arw fel papur swnd.
  Os ydych yn sylwi fod man geni wedi newid neu fod gennych fan geni newydd sy’n edrych yn wahanol i’r lleill, ewch i weld y meddyg. Gall cancr croen ei drin yn llwyddiannus os yw’n cael ei ddal yn gynnar.

Gostyngwch y perygl gan ddilyn y canllawiau canlynol

1 Osgoi’r haul rhwng 10am a 4pm
2 Defnyddiwch eli haul - ffactor 15 gan ei rwbio’n dda i’r corff o leiaf 30 munud cyn mynd allan i’r hau gan gofio am dop eich clustiau, y pen ac unrhyw fannau moel
3 Gwisgwch het haul, dillad call a sbectol haul. Mae’r haul yn gallu achosi caracts.
4 Peidiwch a defnyddio salon lliw haul - maen’t yn niweidio’r croen yn yr un modd a’r haul.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Llongyfarchiadau

I Daniel Jones o Maes y Llan ar ennill Gradd 2/1 B.Eng. mewn Peirianyddiaeth ‘Aeronautical’.

I Jill Lunsford ar ennill Gradd B.A. (Anrhydedd) mewn Ceramics

Pob lwc ir ddau ac i bawb yn hen ac ifanc sydd wedi cwblhau arholiadau ym Mis Mehefin.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* Llongyfarchiadau

I Cora Ventre a Steven Williams, a briododd yn Eglwys St Marcella, Dinbych ar Ddydd Sadwni 17 eg o Orffennaf. Y morwynion oedd Claire Ventre, Hawys Lebbon , Louisa Brazioer a Laura Williams.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Llythyrau

All letters must be accompanied by name and address of the writers. Opinions expressed in letters to Y Bont are purely those of the writers, however the editors reserve the right to edit letters submitted.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Annwyl Olygydd,

Gan gyfeirio at yr erthygl “A Village is For Life, not just for Christmas’ Rwyf yn cytuno gyda’r awdur with iddo ddweud fod Carrog yn le prydferth. Hefyd y gall tai haf gael eu defnyddio yn well i gartrefu bobl lleol. Yn anffodus mae Tai Haf yn un o ffeithiau bywyd mewn ardal wledig fel hon, un a’i yng Nghymru, Lloegr neu ar y cyfandir. Er fod hon yn sefyllfa anodd newid, mae nifer o bethau y gall y Cynghorhau lleol ei wneud. Un awgrym yw i ddwblu treth ar v y tai nad ydynt yn cael eu defnyddio drwy’r flwyddyn. Gall yr arian ychwanegol wedyn gael ei ddefnyddio gan y pentref i alluogi gwaith ar Neuaddau pentref y.b. Ni fuasai 11 mwy o dai o angenrheidrwydd yn golygu 22 mwy o oedolion a 22 mwy o blant. Pe buasai hyn yn ffaith, a fuasai hyn yn cael llawer o effaith ar fusnesau lleol. Roedd y Siop ar agor hyd at ychydig fisoedd yn ol. Mae nifer o ffactorau wedi bod yn gyfrifol am iddo gau. Mae mwy o bobl yn teithio i archfarchnadau nag yn y gorffennol, ac mae pensiwn yn cael ei dalu i mewn i’r banc. Dim ond dau ffactor yw hyn ond mae’n debyg fod yna rai ychwanegol. Mae’r dafarn yn brysur iawn yrn misoedcl yr Haf ers dyfodiad y Rheiffordd ac agoriad y Maes Campio. Ydy, mae misoedd y Gaeaf yn ddistaw, ond efallai y gellir goroesi hyn trwy ail gychwyn y tim dartiau a ‘pool’. Beth am ail gychwyn y noson gwis ar nos Fercher ? Mae nifer o ffyrdd I annog masnach yn ystod Misoedd y Gaeaf, nid 11 o deuluoedd ychwanegol yw’r unig ateb. A fuasai 11 mwy o deuluoedd yn golygu mwy o gynulleidfa yn y Capel neu’r Eglwys ? Mae cynulleidfaoedd wedi bod yn lleihau ers blynyddoedd. Efallai gan nad yw’r lefydd yma wedi newid ers blynyddoedd, ac nad oes digon yn cael ei wneud i annog bobl ifanc - mae’r gynulleifa’n mynd yn hyn felly, heb gynulleifa ifanc yn dod i mewn. Nid wyf yn credu y buasai newid tai haf yn gartrefi bobl lleol yn cael effaith fawr ar y pentref. Un ffordd o achub llefydd fel y Capeli ,yr eglwys, a’r Siop (er ei fod yn rhy hwyr i’r Siop) yw fod bobl lleol eu defnyddio. Wedi’r cwbl mae oddeutu 400 o drigolion yng Ngharrog. Os ydych yn meddwl nad yw’r llefydd hyn yn cynnig gwasanaeth gwerth ei gael \yna gwnewch awgrymiadau i’r bobl sydd yn eu rhedeg. Efallai fod gennych awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau yn y Pentref yn ystod y Gaeaf. Rwy’n siwr y byddent yn falch o glywed gennych.

Un pwynt i orffen. Oes, mae angen tai newydd yng Ngharrog ac mae Cae’r Efail yn cae prydferth, ac mi fydd yn drueni ei weld yn diflannu os yw’r cynlluniau yn mynd yn eu blaen. Ond pa ddewis arall sydd ? (arwahan I ail-gydio yn y tai haf) Efallai fod rhai wedi gwrthwynebu i adeiladu Maes y Llan, neu’r tai arall sydd wedi eu hadeiladau yn y pentref yn y 50 mlynedd diwethaf.. Mae angen cadwr to ifanc yn y pentref, hebddynt ni fydd cenhedlaeth newydd ac felly dim Ysgol Tafam Eglwys, Capel na Neuadd. Yr unig ffordd i’w cadw yw i adeiladu tai newydd.

Eric Lea.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Annwyl Olygydd,

Gan gyfeirio at y sylwadau ein bod yn gymuned ddiog. Rwy’n cytuno’n llwyr, ond rwy’n siwr fod pawb yn cytuno fod angen arwyddion ffordd yn Llidiart y Parc, Hefyd arwyddion pwysau ar y Bont. Rhaid arbed gorfod trwsio’r bont unwaith eto, er mor drylwyr a chyflym oedd gwaith y contractwyr. Gan gyfeirio at yr erthygl. ‘A village is for Life, not just for Christmas’ rwy’n cael trafferth meddwl am y 11 o gartrefi gwag. Rwyf yn cytuno fodd bynnag y dylid defnyddio’r tai yma yn lle adeiladu mwy ar dir anweddus gan obeithio y buasai’r trigolion yn defnyddio’r siop, os ydym yn ddigon ffodus i gael un.

Beryl Hindley.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Rhodfa Dyffryn Dyfrdwy

Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un brysur iawn i mi. Fe ddechreuais ar Rodfa Dyffryn Dyfrdwy Mis Ebnll diwetha’. 15 milltir ar hyd mynyddoedd Llantysilio o Langollen i Gorwen gan basio pentrefi bach ar hyd y ffordd. Cafodd y prosiect ei gychwyn gan y ‘Business Action Group’ lleol ac fe gafwyd arian gan Cadwyn Clwyd ac Adfywio.

Mae’r daith yn pasio trwy Garrog, mae’nsiwr eich bod wedi gweld yr arwyddion yn mynd i fyny, a gobeithio y bydd busnesau lleol yn elwa’r cerddwyr. Nid ar gyfer ymwelwyr yn unig y mae’r daith. Mae’n gyfle i bobl lleol fwynhau golygfeydd arbennig, natur a bywyd gwyllt.

Bydd gwybodaeth am y daith ar gael a fydd wedi ei gwblhau yn y misoedd nesaf. Bydd cyfle i gwblhau taith o 10 milltir gyda mi fel rhan o’r wyl gerdded ar Ddydd Sul l9eg o Fedi.

Hoffwn ddiolch I bawb yn y pentref sydd wedi cefnogi’r prosiect.

Samantha Williams.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article