Gorffennaf 2004 July
Weli’s a Berfa
Poen cefn, llosg haul, a diffyg hwyl a chneifio. Am ychydig ddyddiau roeddwn yn paffio gyda defaid, ac yn ceisio tynnu eu cotiau heb golli bysedd. Mae’n edrych yn hawl wrth wylio’r bobl broffesiynol. Fodd bynnag wrth fy ngwylio I fe welwch pa mor anodd ydy cneifio. Fe ddaeth y glaw o’r diwedd ond ychydig yn rhy hwyr oedd hi mae arna’I ofn. Rwy’n gobeithio am dywydd bra far gyfer y cynhaeaf. Cawsom dipyn o drafferth y mis yma pan benderfynnodd bustych David Blair nofi’r afon a cyflwyno en hunain I’m bustych i. Fe gymerodd fore cyfan I geisio en troi am adre’ ond roeddynt yn gyndyn o fynd. Fe benderfynnodd pedwar ohonynt neidio’r ffens I Dy Mawr ond nid oedd y lleill mor ffit ac fe aethon nhw yn syth trwy’r ffens I’r ffordd ac mi chwerthais. Yn ffodus fe eathant yn o! I’r cae heb ormod o ffwdan ond nid oeddynt am groesi’r afon yn oil Ben y Bont. Dyna pan ddaeth Paul Fisher I’m helpu. D’wn I ddim be’ ddwedodd o wrthynt ond fe drodd pob un ohonynt are u sawdlau ac I ffwrdd a nhw ar draws yr afon gan fynd a un o’m bustych I gyda nhw (unwaith eto un cam ymlaen, a dau yn ol). Ar ol dod o hyd II wyn a chanddynt gynthron, fe benderfynnais roi ‘dip’ iddynt. Mae’r cemegau a ddefnyddir yn un gwych ac yn lladd bob math o gynthron a’r creadur druan sy’n ei ddefnyddio os nad yw’n ofalus. Felly gan wisgo fel gofodwr fe roes ddos I’r defaid a’r wyn a fydd yn en gwarchod am sbel a rhoi tipyn o lonydd I mi, os nad wyf yn cael amser I fynd o’u cwmpas yn ystod y cynhaeaf. O, a gyda llaw dyw’r sied dal ddim wedi ci gorffen.
Gareth Llan.
© Copyright Gareth Bryan 2004
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article