statcounter

       

Gorffennaf 2004 July

A Wyddoch Chi?

Fe wyr pawb fod ‘glas’ yn golygu y lliw sef ‘blue’ yn y Saesneg ond pan mae’n cael ei ddefhyddio mewn enw ile neu dy mae’n gallu golygu gwyrdd ex Glasfryn hefyd yn y gair glaswellt. Mae glas hefyd yn gallu golygu arian neu lwyd gleision. Mae’r enw neu’r gair ‘Glesni’ yn ol y cyfieithiad yn y geiriadur yn golygu ‘blueness’ neu ‘verdure’ sy’n cyfieithu’n ol I’r Gymraeg fel ‘gwyrddlesni’. Yng Ngaeleg ‘glass’ yw’r gair ac mae’n golygu ‘gwyrdd’ o hyd. Mae’r gair ‘glas’ hefyd yn gallu golygu rhywbeth neu rywun sy’n ifanc, newydd neu’n anaeddfed ex Geiwir yr wythnos gyntaf ym mywyd Coleg yn ‘Wythnos y Glas’ Fr myfyrwyr newydd.

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article