statcounter

       

Gorffennaf 2004 July

Golygyddol

Mewn oes lle nad yw llawer o bethau’n rhedeg I drefn a bo prosiectau’n costio llawer mwy nag a feddyliwyd, rhaid llongyfarch y contractwyr a fu’n gweithio ar y bont am eu gwaith trylwyr a chyflym. Cafodd y gwaith ei gwblhau mewn pedwar diwrnod yn hytrach na thair wythnos gyda cymorth ‘cherry picker’. Gresyn na fedrwn ysgogi’r Cyngor I welthio’n gyflymach gyda’r arwyddion sy’n dangos lle mae Carrog yn dechrau ac yn darfod. Maw hyn yn bwysicach nawr ers I ni efeillio gyda Plouyé. Efallai y gall ei Cynghorwyr newydd fod o gymorth. Rydym wedi cael ymateb dda gan nifer o Gynghorwyr. O safbwynt arwyddion cyflymder rydym wedi cael tri llythyr ond dim urn llythyr ynglyn a’r arwyddion I ddweud ble mae Carrog, nac ychwaith ynglyn a phwysau ar y bont. Mae cyfle I chi I gyd leisio eich barn ynglyn a nifer o bynciau. Os nad ydym ni fel cymuned yn barod I leisio barn nid yw’n deg disgwyl I gynghorwyr wneud hynny drosom.

Gyrrwch gyfraniadau I’r golygydd editor@bont.deevalley.com neu ffoniwch 430397, 430625 neu 430558.

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article