Mai 2004 May
Llythyrau
Siop Carrog
Annwyl Olygydd,
Rwyf yn gofidio fod Siop Carrog
wedi cau, a’r effaith y mae hyn yn mynd I gael
ar y gymuned, yn ogystal a’r argraff y bydd yn ei roi I ymwelwyr. Tair mlynedd
yn ol roedd gan Garrog Siop a swyddfa Bost a oedd yn ffynnu a does dim rheswm
pam na all hyn fodoli unwaith eto yn y dwylo iawn. Mae hanfodol I unrhyw fentr
fedru cynnig gwasanaeth na geir mewn archfarchnadoedd. Mae digon o sgop yma
I gynnig cynnyrch lleol I bobl y pentref ac I ymwelwyr yn dymhorol. Mae gan
Jane a minnau diddordeb mewn agor Siop Gymunedol, sydd yn cael ei redeg gan
bobl lleol yn wirfoddol ac yn cynnig mwy na chynnyrch – ond lle I fobl gyfarfod,
ffotogopio, I “shredio” llythyrau wast y.b yn ogystal a gwerthu bwyd fres
ac eitemau hanfodol (glo, matsys y.b) Rydym ar ddeall y bydd Siop Carrog ar
gael o Fis Gorffennaf ymlaen ac felly mae gofyn dechrau cynllunio nawr. Cysylltwch
a Jane ar 01678 520400 os ydych am roi cymorth I ni gael Siop Carrog ar agor
unwaith eto.
John Legg
Berwyn House.
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article