statcounter

       

Chwefror 2004 February

This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

Golygyddol Sioe Dalentau Snwcer
Carrog & Llidiart y Parc Licence Ian Dillon
Weli’s a Berfa Efeillio Canolfan Iechyd
A Welwch Chi’r Arwydd Ffordd Llythyr o America Owain Glyndwr
Swydd Mrs. V. M. Fanning Dyddiadur
Pwl   Ar Werth / Yn Eisiau

Golygyddol

Roeddem wedi bwriadu i’r ‘Bont’ fod yn bapur rhad ac am ddim i’r gymuned gyda’r gobaith y byddem yn derbyn cymorth grant i bwrcasu defnydd printio eleni. Rydym wedi llwyddo I gyrraedd Rhifyn 5 ond yn anffodus does dim grant ar gael. Yn wir ni lwyddodd ein cais gyrraedd yr asesiad. Nid y ni yw’r unig rai fodd bynnag. Mae grwpiau eraill yn y pentref wedi cael eu gwrthod yn ogystal. Hyd yn hyn mae costau printio wedi cael eu talu gan A5 Publishing a’r tim golygyddol o fis i fis. Mae angen newid hyn er mwyn sicrhau dyfodol tymor hir y papur, ac felly mae i ni godi swm bychan ar hysbysebion. Mae’r rhai sydd yn y rhifyn hwn eisioes wedi, neu ar fin talu. Mae amryw wedi addo talu am hysbysebion ond gan fod cymaint o bobl wedi cyfrannu nid oedd lle i hysbysebon yn y rhifyn diwethaf. Os oes gennych syniadau neu wybodaeth am grantiau, cyfraniadau neu unrhyw fodd o godi arian yddwn yn falch o glywed gennych.

............. ac yn olaf, croeso I’n bechgyn papur diweddara’ sef David Tinniswood ac Eric Lea.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Carrog a Llidiart y Parc

Gan barhau gyda’n traethawd, y pwnc y Mis hwn yw Adloniant a Hamdden :

‘Roedd tair Tafarn yn y pentref yn y 19 Ganrif - Un yn Llan Farm(Mr Godfrey Parry), Y ‘Blue Bell’ (Tawelfa) a gafodd ei gau yn 1930 gyda’r hysbysiad canlynol I’r pentrefwyr:

To the people of Carrog
I henceforth do tell,
That there is no more beer
Here at the Blue Bell.

‘Y Grouse’ oedd y drydedd dafarn - sy’n dal ar agor heddiw (ac yn ffynnu Ed.).

Dyddiad pwysig iawn ym mywyd Carrog oedd oedd y Ddydd Iau cyntaf m Mis Mehefin. DIWRNOD CLWB ‘ODD FELLOWS’. Gyda Band Pres yn eu harwain, byddai’r aelodau yn cerdded o’r Hen Ysgol i wasaneath glwys am 10.30 y.b. Yna byddai’r plant yn cario baner - y band yn dilyn a gweddill yr aelodau gyda baner mwy o faint, yn martsio i Lidiart y Parc lle cafodd y plant gacen gan Mr Edward Jones, Siop Parc. Byddai’r band yn chwarae I Mr Jones gan ei fod yn aelod anrhydeddus o’r clwb. Yna yn Ysgubor y Grouse lle afodd yr aelodau swper a’r plant blatiaid o pwdin reis. Talodd bob aelod geiniog am y pwdin. Ymlaen wedyn I Rhagatt, a glasiaid o lefrith a chacen I’r plant neu lemoned a pishyn tair ceiniog. Yna ‘roedd y band y chwarae Mr Lloyd o Rhagatt a’I deulu. Yna’n ol trwy’r Felin a heibio I Llan Farm I’r Ysgol I ymweld a’r Doctor (Cymdeithas oedd yr Odd Fellows a oedd yn cyfrannu tuag at yflog cydweithwyr os oedd unrhyw un yn sal. I orffen byddai’r band yn arwain pawb I gae’r ‘Cottage’ lle ‘roedd gemau , hwyl, a stondin gacennau a fferins - diwrnod pwysig I’r holl bentref.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Weli’s a Berfa

Unwaith eto nid yw rheolaith amser yn bod yn “Llan Farm”. Ar ol haf crasboeth a sych, fe arhosais nes I’r glaw gyrraedd cyn penderfynnu adeiladu sied newydd.Yn wreiddiol roedd gennyf ddarn o dir lefel, ond ar ol dau neu dri diwrnod o law roedd gennyf rhywbeth a oedd yn debyg iawn I’r Somme gyda “Trenchfoot” bysedd gwaedlyd ac esgyrn wedi’i torri.

Fe aeth popeth yn dawel tra’n codi’r ffram hyd yn oed ar ol I ryw Albanwr fy ngalw yn enw anweddus (er difyrrwch I bawb arall) fe aeth pethau’n hwylus iawn. Rhwng codi’r sied fe ddaeth Jill Tustain I scanio’r defaid I ddarganfod cnwd wyn y flwyddyn hon.

Er I ni orfod gweithio yn y glaw a’r eirlaw roedd y canlyniadau‘n ffafriol. Mae’r defaid wedi ei rhannu yn ol yr hyn y maent yn ei gario (efeilliaid, tripledau, neu un oen) a hefyd eu stad corfforol (dim yn dda iawn, gwael, neu o diar) ac mae’r bwydo wedi dechrau o ddifri.

Mae’r hunllef o wyna yn agosau bob dydd!

Gareth Llan

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

A Welwch Chi’r Arwydd Ffordd?

Mae Llandegla wedi llwyddo cael arwydd ffordd ym Mis Ionawr. Efallai y gall ein darllenwyr edrych am arwyddion eraill sydd wedi ymddangos tra bo Carrog yn parhau yn ddi-enw ac yn anweladwy I deithwyr.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Sioe Dalentau

Yn anffodus mae Heather Scott wedi gofod gohirio’r Sioe Dalentau oherwydd diffyg diddordeb.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Efeillio

Gyrrwyd gwahoddiad swyddogol I Bwyllgor Efeillio Plouyé a fydd yn ymweld a ni rhwng 20fed a’r 24ain o Fai. Mae Marc Parayre o Plouyé wedi gofyn I ni gyfieithu ‘Dogfen Efeillio’’ swyddogol fel bo’r dogfennau terfynol yng Nhgymraeg/Bretoneg/Ffrangeg a Saesneg. Bydd cyfarfod agored ar 2il o Chwefror am 7 o’r gloch yn Ystafell Bwyllgor y Neuadd.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Llythyr o America

Mae’r llefydd gorau I’w cael oddi ar y map......gan Sam O’Neill Roedd gan fy ngwraig a minnau awydd teithio. A gyda’r Gwyliau Diolchgarwch yn agosau a ninnau ag amser yn rhydd, fe gododd yr awydd am brofi diwylliant a lle newydd! Fel un sy’n dod o stoc Geltaidd gyda cyfenw O’Neill, yn hoff o sgwrs a diod ac yn hoffi hiwmor a hwyl (mae fy ngwraig Mary Alice yn gadael I mi feddwl fy mod yn berchen ar dipyn o hiwmor) daethom I’r penderfyniad ein bod am brofi golyffeydd hardd, hen gestyll, hanes ac efallai tipyn o gymysgu gyda bobl lleol - yn fyr - A5 - Gogledd Cymru, Dwyrain o Langollen.

Yn falch o fod allan o Loegr (dach chi’n gwybod be’ dwi’n feddwl) daethom I Gymru o’r Gorllewin a nghalon Geltaidd yn curo’n gyflymach. Roeddwn wedi blino gan nad wyf yn cysgu ar awyrennau, ac yn gweld gyrru ar yr ochr anghywir o’r ffordd yn waith caled. Roeddwn newydd droi cornel ac wedi darganfod fy hun ar yr ochr anghywir o’r ffordd pan benderfynnais ei fod yn amser stopio a dod o hyd I le I aros am y noson. Corwen oedd y dref agosaf ar y map ond roeddem yn dal I fod tipyn o ffordd o Gorwen pan welodd Mary Alice arwydd am Garrog, gyda lonydd cul a chyfle iddi dynnu mwy o luniau o’r wlad a oedd yn troi’n harddach bob munud. Wrth I ni droi I’r dde fe welais olygfa fendigedig yn y golau gwan, o bont yn croesi afon ac adeilad a allai fod yn dafarn.

Daeth Mary Alice I’r canlyniad mai rhyw siop grefftau oedd yr adeilad, a nghalon yn mynd yn drymach wrth feddwl am yr hyn a allai fod. Ac felly y dechreuodd ein diwrnod cyntaf yng Nghymru a sut y daethom I Garrog (un o uchafbwyntiau ein taith) Diolch I’r nefoedd nad siopgrefftau mo’r Grouse a buom yno am y noson a’r rhan fwyaf o’r bore trannoeth. Roedd y bobl lleol yn ddiddorol ac yn gyfeillgar ac fe wnaethant ein taith I Gymru yn angofiadwy.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Claddedigaeth y diweddar Mrs. V. M. Fanning

Hoffwn ddiolch I bawb a fynychodd angladd ein modryb Mrs V.M. Fanning.

Rydym wedi cyfarfod a rhai ohonoch wrth I ni ymweld a Mr a Mrs Fanning yn y dyfodol ac yn gwybod fod y ddau ohonynt wedi bod yn hapus yn byw yng Ngharrog ymhlith ffrindiau da. Roeddem wedi gobeithio cael eich cyfarfod yn yr angladd ond yn anffodus cawsom drafferth gyda’r car ac roeddem yn rhy hwyr I gyrraedd mewn pryd. Hoffem drwy’r llythyr hwn ddiolch yn fawr I chi am fynychu’r angladd.

Alan a Marion Thorburn Ffon - 01702 541760

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Cynghrair Pwl Llangollen

Dydd Iau, Ionawr 8fed
‘The Star’ B2 -5 ‘Y Grouse’
Llwyddiant I Elen Jones, Mair fox Jamie Lea,Ian Dillon, a Mathew Jones.

Dydd Iau, Ionawr 15fed
‘Y Grouse’ 2 - 5 ‘Y Wynnstay’
Llwyddiant I Elen Jones ac Ian Dillon.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Snwcer

Do, mi wnaethom anghofio son fod Carrog wedi curo Cerrig y Drudion ym mis Rhagfyr o 5 - 1. Llongyfarchiadau, maent yn awr ar rol a phob lwc iddynt am weddill y tymor.

Cafodd y clwb ei sefydlu ar ol I’r Neuadd gael ei adnewyddu yn 1981 ac mae croeso I aelodau newydd.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Cynnydd Ian Dillon

Gan adael y dyffryn tawel bellhau fy addysg cefais fy hun yng nghanol Lancaster a Morecambe(!) yn barod I astudio ffisiotherapi, ac astudiaethau Chwaraeon ac Iechyd. Mae Lancaster yn debyg iawn I Gaer, yn lle hanesyddol a thua’r un maint.

Rwyf wedi cael y cyfle I gymysgu gwaith a phleser wrth I mi weithio gyda tim pel-droed proffesiynnol a chael y cyfle I hyfforddi gyda hwy gyda’r gobaith o chwarae gem iddynt. Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio fel “disc-jockey” mewn nifer o fariau sydd ynglwm a’r coleg.

Arwahan I hyn , gwaith sy’n llenwi’r amser (peidiwch a choelio’r storiau am nosweithiau gwyllt a digwyddiadau gwirion - dydy’n nhw ddim yn wir, coeliwch fi!). Yn olaf diolch I bawb yn Y Grouse am eu geiriau doeth a gobeithiaf gael eich gweld dros y Pasg.

Ian Dillon.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Canolfan Iechyd Corwen

Bydd ‘Breast Test Wales’ yng Nghorwen ym mis Chwefror.

Mae apwyntiad yn awtomatig I ferched rhwng 50 a 64. Mae sgrinio yn bwysig gan fod 1 mewn 11 o ferched yn yr UK yn datblygu cancr ar ryw adeg o’I bywyd. Yn fwy aml ar ol 50. Mae sgrinio yn darganfod y newidiadau na ellir eu gweld neu ei teimlo. Mae darganfyddiaeth cynnar yn golygu mwy o siawns o wellhad llwyr. Ni fydd merched sy’n 65 eleni neu sydd wedi troi 65 yn cael apwyntiad awtomatig.

Os hoffech gael eich sgrinio ffoniwch neu ysgrifennwch at North Wales Breast Screening Centre, Maes Du Road, Llandudno LL30 1QZ Ffon - 01492 860888 I gael apwyntiad.

Beth bynnag yw eich oed os ydych yn sylwi ar unrhyw newidiadau ffoniwch eich doctor ar unwaith hyd yn oed os ydych wedi cael eich sgrinio yn ddiweddar.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Owain Glyndwr Yng Ngharrog

Nid oedd y rhai ohonoch a welodd rhywbeth yn debyg I filwyr Glyndwr o gwmpas y pentref ar Nos Sadwrn ym Mis Ionawr yn bell o’ch lle! Aelodau o Gymdeithas sy’n actio brwydrau hanesyddol oedd yn aros yn y Neuadd am noson ar ol gwledd Ganoloesol

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Dyddiadur

Operatig Ieuenctid Llangollen -

The Young - Uns yn Alice in Wonderland - 7.00 y.h ar Chwefror 5ed, 6ed a 7fed yn Neuadd Tref Llangollen.
Gyda pherfformwyr lleol - Charlotte Davies, Kath Lloyd, Gemma Jones a Heather Blair. Gweler y posteri am fwy o fanylion.

Clwb Snwcer

Chwefror 3ydd Carrog - Llandrillo (B)
Chwefror 10fed - Carrog - Llandrillo (A)
2il rownd Cwpan Tim (knockout)
Chwefror 17eg - Ysbyty Ifan (A) - Carrog
Chwefror 24ain - Ysbyty Ifan (B) - Carrog

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Swydd

Gofal a gwarchodaeth yn eisiau ar gyfer dyn lleol a chanddo anabledd ac Altzheimers. Dau ddiwrnod yr wythnos. Tal da a gwyliau. Am fwy o wybodaeth ffoniwch Nathan ar 07909 918147. Mwy o oriau yn bosib.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Llywodraeth Leol (Darpariaeth Amrywiol) Act 1982; Trwydded Adloniant Cyhoeddus; Fe hysbysir fod cais wedi ei wneud gan :

NEUADD BENTREF CARROG; CARROG
Am adnewyddiad o drwydded; Cerddoriaeth a Dawns; I Gyngor Sir Ddinbych AR
GYFER YR ORIAU CANLYNOL; LLUN HYD SADWRN; 7.00 y.h. - 11.45 y.h.
Gofynnir I unrhyw un sydd am wneud sylwad ysgrifennu at; Pennaeth Gwasanaeth Trwydded; Diogelwch a Rheolaeth; Cyngor Sir Ddinbych; Ffordd Wynnstay; Ruthin LL15 1YN
O fewn 14 niwrnod o’r hysbysiad yn cael ei gyhoeddi.
D.C. Roberts, Carrog, Corwen.
28ain Ionawr 2004-02-05

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Dalier Sylw:

Bydd gofyn codi pris am hysbysebion. Hysbysebion mawr - £5.00 y Mis am flwyddyn. Eitemau ar werth neu yn eisiau - £1. Gwybodaeth am brisiau pellach ar gael.

Yn Eisiau

Peiriant golchi Awtomatig mewn cyflwr da. Ffoniwch Zoe - 01490 430689

Ar Werth

Tan nwy gyda vent. Pedwar gwres. 01490 430397

Cadair menyw gwyrdd golau. Cynigion Gwlau Bync - Mahogani.
Gellir eu defnyddio fel gwlau arwahan - 01490 430220

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article