Rhagfyr 2003 December
Ysgol Carrog
Mae tim pel droed Ysgol Carrog wrth eu bodd gyda ‘strip’ newydd sydd wedi cael ei nodd gan “Y Grouse”. Enillodd y tim ddwy gem yn nhwrnament pel droed Corwen.
Rhedodd y plant cynradd yng nghystadleuaeth Traws Gwlad Ysgolion yr Ardal ac fe aeth Gus Shaw a Rachel Davenport i gynrychioli’r Ysgol yn Rasus terfynol y Sir yn Ninbycg.
Cafwyd “Beetle Drive” llwyddianus gan y “PTFA” gyda Angharad, Isobel a Molly yn ennill gwobrau.
Bu’r disgyblion i gyd mewn Jambori yng Nghorwen a Rhuthun a gafodd ei drefnu gan yr Urdd gyda ymweliad arbennig gan Mistar Urdd.
Mae’r Ysgol yn gwerthfawrogi rhoddion gan Bwyllgor y Carnifal a hefyd gan Blas Hyfryd, Carrog a Pwyllgor Cyngerdd yr Eglwys y tymor yma.
Diolch i’r plant a gyfrannodd tuag at “Operation Christmas Child”. Casglwyd 24 o focsus yn yr Ysgol.
CYNGERDD NADOLIG - Nos Lun, 15fed Rhagfyr, am 6 or gloch hwyr
GWASANETH ‘CHRISTINGLE’ - Prynhawn Dydd Gwener Rhagfyr 19eg 2.15
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article