Rhagfyr 2003 December
Weli’s a Berfa
Y mis diwethaf yr oedd yr hyrddod wrthi’n edrych ymlaen at eu hanturiaethau blynyddol Chwech wythnos yn ddiweddarach fodd bynnag mae eu brwdfrydedd wedi cilio a dogn ychwanegol ynghyd a 10 mis o R&R yw’r gofyn.
Mae’r gwartheg erbyn hyn wedi ymgartrefu yn y beudu 5 seren foethus a minnau fel ‘Head Chef’ gwas ystafell a dynes lanhau!
Mae’r Haf yn teimlo’n bell i ffwrdd lle, rhwng problemau (dynol a pheiriannol) bu’m yn llwyddiannus yn llenwi’r sied wair gyda chymorth bechgyn y pentre’. Wedi cwyno a chrinio arnynt i roi’r gwair yn dwt ac yn daclus mae’n biti gorfod dad-wneud y gwaith da a chario’r gwair i’r gwartheg!
Y broblem fwyaf o fwydo’r gwartheg o dan do yw’r hyn y mae’nt yn ei gynhyrchu o ganlyniad - y mwyaf sy’n mynd i mewn un pen - y mwyaf oll sy’n dod allan y pen arall! Unwaith eto mi fydd y fforch, y ferfa a minnau yn dod i adnabod ein gilydd yn bur dda. O ba fyddai’n Wanwyn!!
Gareth Llan
© Gareth Bryan - 2003
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article