Tachwedd 2003
Cyngerdd
Roedd y Neuadd yn orlawn ar gyfer Cyngerdd Mawreddog ar y 18fed o Hydref. Agorwyd y Cyngerdd gyda Chantorion Rhos, Cor cymysg a ennillodd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, dilynwyd gan Pedwarawd Llansilin gyda’i harmoni bendigedig a’u telyneg doniol.
Canodd Bryony Keyse a Samantha Scott ddwy ddeuawd hyfryd gyda Diana Keyse ar y piano. Chwaraeodd Colin Keyse unawd ffidl ac fe gyfeiliodd i Bethan Scotford ynghyd a Diana Keyse.
Cyflwynwyd y noson gan Eurin Jones gyda’i storiau digri rhwng y perfformiadau. Trwy gymorth nawdd nifer of bob1 yn y pentref, derbynniodd Ty’r Eos ac Eglwys Carrog rodd o o leiaf £266 yr un.
Trefnwyd y Cyngerdd gan Pam Evans, Jennifer Jones a Tina Lloyd.
© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated / Hawlffraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.