Hydref 2003
Eglwys St Ffraid
Mae’n dda gael cofnodi fod y rhan fwyaf o’r gwaith adnewyddu wedi gael ei gwbwlhau. Mae’r eglwys dal rhiwfaint yn fur o’r cyfanswm sydd angen i dalu am yr holl waith, ond hoffwn ddiolch i bawb a gyfranodd at achos “cymorth rhodd”. Codwyd dros mil o bunnoedd gan pobl y cymuned at yr achos yma.
Daeth llawer iawn o bobl i’r gwasanaeth diolchgarwch ac ail gysegriad ar y diwrnod olaf o Hydref, i groesawu yr Esgob y Parchedig John Davies ac i wrando arno yn pregethu.
Roedd pawb a oedd yn bresennol wedi ei plesio efo ymddangosiad y tu mewn a oedd wedi ei arddurno gyda blodau, llysiau a ffrwythau, ac wedi ei oleuo gyda canwyllau a goleuadau newydd wedi ei gosod yn y to.
© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated / Hawlffraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.